top of page

Project Cymdeithasol yn derbyn - £330,000 - for a socio-environmental project!

Prosiect cymunedol sydd â newid hinsawdd wrth ei galon yn derbyn mwy na £330,000 mewn arian trwy Camau Cynaliadwy Cymru o Gronfa'r Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.



Mae Cymdeithas Tai Cymunedol Cynon Taf wedi derbyn dros £330,000 o gyllid gan Camau Cynaliadwy Cymru a Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Nod y cyllid hwn yw datblygu a chyflawni prosiect Down To Zero a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol trwy weithgareddau amgylcheddol.


Bydd y cyllid yn galluogi'r prosiect i weithio gyda chymunedau i archwilio arferion sy'n garbon gyfeillgar ar draws safleoedd yn Llantrisant ac Aberpennar, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd eraill ar y tir. Bydd y prosiect yn gweld coed a pherllannau brodorol yn cael eu datblygu, yn ogystal â phlannu llwyni a llysiau i ddatblygu cynllun blwch llysiau tanysgrifiad sero net a fydd yn cefnogi diogelwch bwyd cymunedol. Bydd y safle hefyd yn ceisio cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i breswylwyr ddysgu sgiliau gwyrdd, cadw gwenyn a datblygu gwybodaeth ac ymddygiad sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd.


Ers derbyn yr arian, mae Down To Zero wedi cyflogi swyddog datblygu gwyrdd, a fydd yn cefnogi'r prosiect gyda'i amserlen blannu, yn ogystal â rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr ar draws safleoedd. Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi gwirfoddolwyr i adeiladu nifer o gychod gwenyn fel ffynhonnell incwm ychwanegol ac i greu cynnyrch sydd ar gael i'r gymuned leol.


Dywedodd Tom Addiscott, rheolwr prosiect Down To Zero, "Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen Camau Cynaliadwy y Loteri Genedlaethol yn cael effaith enfawr ar yr hyn yr ydym am ei gyflawni fel prosiect – mae'n golygu y gallwn ddatblygu rhagor o weithgareddau sy'n garbon gyfeillgar, plannu mwy o goed, ehangu ein perllannau, cael gwenyn ar y safle i helpu gyda pheillio, yn ogystal â sicrhau bod gennym y sgiliau a'r offer i yrru arferion a newid ymddygiad sy'n gyfeillgar i garbon'.


"Mae Down to Zero yn fwy na dim ond prosiect am fod yn garbon niwtral, mae'n gyfle i fynd allan, dysgu sgiliau newydd, helpu i oresgyn heriau bwyd cymunedol a chefnogi'r economi sylfaenol. Mae'n dangos y gallwn fwynhau cynnyrch sydd wedi'i dyfu'n lleol; ethos o'r goeden i'r plât. Rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd yn nyfodol Down to Zero a'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd."


Cefnogir y prosiect gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'i denantiaid, staff a chymunedau lleol i leihau effaith newid hinsawdd.

Ychwanegodd Kath Palmer, Prif Swyddog Gweithredol dros dro Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y buddsoddiad hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r hyn y mae'r prosiect yn bwriadu ei gyflawni gyda'i gynlluniau i gefnogi ein sefydliad i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, ond hefyd yr effaith gadarnhaol y bydd y ddau safle yn eu cael ar y cymunedau cyfagos o ran diogelwch bwyd, datblygu sgiliau a gwybodaeth am yr hinsawdd."

Mae'r prosiect eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn y cymundau cyfagos, gyda safle Llantrisant yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau yn ogystal â chynllunio gweithgareddau yn ystod y gwyliau i annog teuluoedd i dreulio amser ym myd natur a throchi eu dwylo. Gan ddefnyddio'r cyllid, bydd Down To Zero yn parhau i ddatblygu mwy o weithgareddau cymunedol sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ac sy'n cynnig rhywbeth i bawb.


Am fwy o wybodaeth am Down To Zero a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni, ewch i www.down-to-zero.co.uk





83 views0 comments

Comments


bottom of page